Wednesday 1 June 2011

CYFWELIAD / INTERVIEW: Osian Gwynedd - Sibrydion

Mae Osian Gwynedd wedi mwynhau cyfnod llwyddiannus iawn yn y byd cerddorol, gan fod yn aelod o’r grwpiau hynod boblogaidd Big Leaves a’r Sibrydion, yn ogystal a chwarae â rhai o fandiau byd-enwog o Gymru megis Catatonia a’r Super Furry Animals.

Enw: Osian Gwynedd
Swydd: Cerddor Hunangyflogedig

Sut fath o ddylanwad, os o gwbl, gafodd dy gyfnod mewn addysg ar dy ddiddordeb mewn cerddoriaeth:
 Cychwynnais i yn Ysgol Waunfawr , a mae’n rhaid fi ddeud, sw ni’n synnu os oes na ysgol well i gael cyfle neu brofiad i ddechra chwarae cerddoriaeth. ’Odd pawb yn cael dechra efo recordyrs, ac yn symud mlaen i melodicas, fflwits, clarinets a ballu - offerynna da ni yn dal i’w defnyddio fel band hyd heddiw!  Tra yn ysgol Dre, roedd hyd yn oed fwy o gyfleuon. Yn hoff athrawes i oedd Menai Williams, a dwi’n cofio yn y flwyddyn gyntaf, hi’n son am nodau fel lliwiau gwahanol. Wow - “Far out”!!
Roedd holl aelodau’r Big Leaves yn ddigyblion yn Syr Hugh Owen. O eddach chi’n ffrindia yn yr ysgol?
Oedda ni’n  ffrindia ers cyn cof, achos bo ni gyd wedi ein dwyn fynu yn Waunfawr. Ddechreuo ni fand o’r enw “Bron a Methu”, enw sal I ddweud y gwir, yn tua 8 oed, oedd yn beth hollol naturiol i ni ar y pryd. Y drefn fel arfer oedd chwara “man-hunt” yn yr haf, a practeisio efo’r band yn festri Waun pan oedd hi’n bwrw! Da ni gyd dal yn ffrindia mawr!
Unrhyw atgofion neu storiau diddorol am dy amser yn yr ysgol? Athrawon?
Rhy niferus - a fyw i mi achwyn am neb!!
Fuest ti’n cymryd rhan yn Eisteddfodau’r Ysgol o gwbl? Pa fath o gystadlaethau?
Dwi’m yn gallu adrodd, actio, na chanu, felly nes i gadw at gystadlu ar offerynnau cerddorol!
Oeddet ti mewn band yn yr ysgol?
 Mi fues i’n myrrath efo ambell i fand gwahanol. Yn ogystal a Beganifs, ddoth criw o ffrindia ysgol at ein gilydd i ffurfio band o’r enw “Wil Gignoeth a’i Wallgofion” oedd yn lond ceg I’w ddweud, ag yn uffar o hwyl. Escgiws oedd o i gael cambyhafio wrth edrych ‘nol!

Rwyt ti wedi chwarae gyda cerddorion a bandiau byd enwog, ond pa gig yw’r mwyaf cofiadwy i ti yn personol?
Anodd deud pa gig sy’n sefyll allan achos bo nw’n gallu amrywio cymaint. Ond o ran lleoliad a maint, mae’n debyg mai chwarae fel aelod o “The Peth” yn cefnogi Oasis yn Stadiwm y Mileniwm sy’n sefyll allan.
Pwy oeddet ti’n ei edmygu pan yn ifanc?
Pan ddechreuish i fynd i gigs, mi o’n i’n ffodus fod na gymaint o fandia cymraeg gwych o gwmpas lle. Rhai fel Ffa Coffi Pawb, Anhrefn, Y Cyrff ayyb. ‘Odd eu cerddoriaeth nw’n sefyll allan o gymharu a unrhywbeth saesneg o’n i wedi ei glywed, a felly, hein oedd y bobol o’n i’n edrych fynu atyn nhw.
Pa fath o steil sydd ar dy gerddoriaeth?
Sgen i’m syniad be di sdeil fy ngherddoriaeth! Peth da am fod yn hunangyflogedig ydi’r siawns o weithio ar brosiectau  gwahanol. Dwi di cyfansoddi ar gyfer cwmnia theatr a theledu, a ma anghenion y gwaith yn amrwyio gyda phob joban. Felly, mae’n well peidio cyfyngu fy hun i un sdeil neu arddull.
Llwyddiant cerddorol mwyaf?
Dwn i’m!! Anodd cymharu. Ond mi nesh i fwynhau gweithio efo Theatr Y Fran Wen ar gynhyrchiad o’r enw  “Johnny Delaney” .  Y mwynhad pennaf ydi gweld ymateb y gynulleidfa a fod y gerddoriaeth, boed pa mor fach, wedi cael argraff.
Beth sydd gin ti ar y gweill ar y funud?
Ma Mei, ym mrawd, a finna, ‘di bod yn sgwennu albym newydd i Sibrydion, a da ni wrthi ar y brosoes recordio ar hyn o bryd.
Ar ba raglenni teledu mae dy gerddoriaeth i’w clywed?
Ambell i engraifft ydi rhaglenni “Pethe”, “Rhyfedd-Od”, sig yr Eisteddfod Genedlaethol, ac i ddod yn fuan, miwsig i ddrama newydd S4C o’r enw “Gwaith Cartref”.
Dy gan orau di yn bersonol yr ydwyt wedi ei chyfansoddi?
Y nesa gobeithio!

-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Osian Gwynedd has enjoyed a very successful career within the music industry, being a member of popular bands such as Sibrydion and Big Leaves, as well as playing for world-famous bands from Wales, such as Catatonia and Super Furry Animals.
Name: Osian Gwynedd
Profession: Self-Employed Musician

How much of an influence did your time in education have on your interest in music?
I started of at Ysgol Waunfawr, and I must admit, I very much doubt if there is a better school to have an opportunity or experience of starting to play musical instruments. Everyone got to start of with recorders, before moving on to melodicas, flutes, clarinets etc. - instruments we still use today as a band! While at Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, I had even more opportunities. My favourite teacher was Mrs Menai Williams, and I still remember how she taught us the keys as being colours. Wow - far out!
All of Big Leaves' members were students at Syr Hugh Owen. Were you all friends during your time at school?
We've been friends for as long as I can remember - as we were raised in Waunfawr. We started a band called 'Bron a Methu' ('Almost Failing'), a terrible name in truth, when we were 8 years old as it was a totally natural thing for us at the time. I remember the order - playing man-hunt during the summer, and practice with the band when it rained. We're all still good friend today.

Any memories or interesting stories from schools? What about the teachers?
To many to name - and I dare not complain about anyone.

Did you take part in any Eisteddfod competitions during your time at schools? What type of competitions?
I can't act, sing or recitate - therefore I only took part in instrumental competitions.

Were you in a band in school?
I experiemented with many bands while at school. On top of 'Beganifs', a few of us came together to form a band called 'Wil Gignoeth a'i Wallgofion' - which is a bit of a tounge twister and was a lot of fun. Looking back, I think it was just an excuse to misbehave in truth!

You've had the opportunity to play with world-famous artists and bands, but which gig was the most memorable for you personally?
It's hard to pick one gig out, as they vary so much. But considering location and size, playing with Rhys Ifans' 'The Peth', supporting Oasis, at Millenium Stadium does stand out.

Who did you admire when you were young?
When i started going to see gigs, I was lucky that there was so many excellent welsh bands around. I liked to watch bands such as 'Ffa Coffi Pawb', 'Yr Anhrefn', 'Y Cyrff' etc. Their music stood out so much to compare with anything english I had heard, therefore these were the people I looked up to.

What is your personal style of music?
I have no idea what is my style! What is great about being self-employed is the opportunity to work on different projects. I've composed fod theatr companies and television programmes, so each tasks have different needs. It is, therefore, important not to restrict myself to one particular steil or genre.

What is your biggest music achievement?
I don't know. It's hard to compare. But I did enjoy working with 'Theatr y Fran Wen' on their production, "Johnny Delaney". The biggest enjoyment is seeing the audience's reaction and that the music, however big it is, has had an impact.

What is on the horizon for you?
My brother, Mei, and I have been writing a new album for 'Sibrydion', and we are currently in the recording process.

On what television programmes can we hear your music?
There are a lot of programmes on S4C, such as 'Pethe', 'Rhyfedd-Od', 'Eisteddfod Genedlaethol' and an upcoming drama, 'Gwaith Cartref'.

What is the best song that you have composed?
The next one, hopefully!

No comments:

Post a Comment